Taith dywys Abertawe Dylan gyda Chwmni Theatr Fluellen

Taith dywys Abertawe Dylan gyda Chwmni Theatr Fluellen

Date/Time
18/07/2021
10:30 am - 12:30 pm


Ymunwch â ni ar gyfer taith dywys o Abertawe Dylan – wrth gadw pellter cymdeithasol!

Bydd cwmni Theatr Fluellen yn eich arwain ar daith, sy’n seiliedig ar berfformiadau, o gwmpas lleoedd sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas, gan ddechrau y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas ac o gwmpas safleoedd ym marina Abertawe a chanol Abertawe sy’n gysylltiedig â’n mab enwocaf.

I greu amgylchedd diogel, bydd y daith hon ychydig yn wahanol i deithiau’r gorffennol:

  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd
  • Cadwch at y rheolau cadw pellter drwy gydol y daith
  • Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu nodi wrth i chi archebu tocynnau rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer Monitro ac Olrhain
  • Cyfyngir nifer y tocynnau i 10 yn unig ac annogwn bawb i brynu o flaen llaw drwy’r ddolen hon
  • Cynhelir y daith dywys yn yr awyr agored yn unig
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn y daith, e-bostiwch ni yn llenyddiaethdylan.thomas@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 463980
  • Os ydych yn teimlo’n sâl ar y diwrnod, arhoswch gartref a dilynwch argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws

Mwynhewch!

Pris Llawn £10 | Consesiynau £7

Tocynnau

This post is also available in: English