Gweithdy Tawel i Deuluoedd Papur blodau gwyllt a barddoniaeth

Gweithdy Tawel i Deuluoedd Papur blodau gwyllt a barddoniaeth

Date/Time
29/05/2026
10:00 am - 12:00 pm


25 Mai, 10.00-12.00

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ac ymarferol, i ddysgu sut i wneud papur blodau gwyllt sydd ychydig yn wahanol i’r arfer! Byddwch yn gwneud papur, yn ychwanegu eich cerdd unigryw wedi’i dorri’n ddarnau, yna’n ysgeintio cymysgedd o hadau blodau gwyllt a dyfwyd yn lleol ar ei ben! Gallwch ei roi yn rhodd neu blannu’ch papur blodau pan fyddwch yn cyrraedd adref. Bydd staff ychwanegol wrth law i gefnogi teuluoedd ag anghenion synhwyraidd gwahanol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.

Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Gall uchafswm o 30 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.

This post is also available in: English