Sylvia Plath a Dylan Thomas gyda Dr Amanda Golden a Dr Siân Round
Date/Time
27/06/2026
2:00 pm - 3:00 pm
Fel myfyriwr israddedig yng Ngholeg Smith, dywedodd Sylvia Plath mai Dylan Thomas oedd ei ‘hoff fardd modern’ (Letters f.1, 709). Gwnaeth Plath astudio Thomas yn y coleg, clywodd hi ef yn darllen ym 1953, ac yn hwyrach bu’n addysgu ei gerddi fel darlithydd Saesneg i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Smith ym 1958. Drwy archwilio’r nodiadau ymyl dalen yn llyfrgell bersonol Plath a’i nodiadau ar gyfer addysgu barddoniaeth Thomas, bydd y sgwrs hon yn cynnig mewnwelediad newydd i ddylanwad Thomas ar ei barddoniaeth.
Yn dilyn cyflwyniad Dr Golden, bydd hi a Dr Siân Round, Cymrawd Gyrfa Gynnar Leverhulme yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe, yn trafod Plath a Thomas, yn enwedig yng ngoleuni cyhoeddi The Poems of Sylvia Plath (Faber, Mai 2026), a olygwyd ar y cyd gan Golden a Karen V. Kukil. The Poems of Sylvia Plath yw’r argraffiad terfynol o waith y bardd ar gyfer ysgolheigion, myfyrwyr, a darllenwyr cyffredinol. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o Collected Poems gan Plath ym 1981. Mae’r gyfrol newydd hon yn tynnu ar ddegawdau o ymchwil ac yn cynnwys bron dwbl cynnwys yr argraffiad hwnnw. Mae’r llyfr wedi’i rannu’n ddwy ran: mae’r rhan gyntaf yn cynnwys y cerddi a gyfansoddwyd gan Plath yn ystod deng mlynedd olaf ei bywyd, sy’n sail i’w henw da, ac mae’r ail ran yn cynnwys y cerddi hynny a ysgrifennwyd yn ystod ei phlentyndod a’i chyfnod fel myfyriwr. Yn y ddwy adran, mae’r golygyddion wedi dyddio, cywiro a threfnu pob cerdd yn gronolegol, gan dynnu ar lawysgrifau, teipysgrifau, a deunydd archifol cysylltiedig. Mae nodiadau beirniadol yn dogfennu ac yn taflu goleuni newydd ar ddatblygiad rhyfeddol Plath fel bardd, o’i chyfansoddiadau yn ystod plentyndod, drwy ddatblygiad cynnar ei thalent a’i huchelgais, ac i’r gwaith a fyddai’n llunio cerddi ei blynyddoedd olaf, gan sicrhau ei lle yn hanes llenyddol.
Mae Dr Amanda Golden yn Athro Cysylltiol Saesneg yn Sefydliad Technoleg Efrog Newydd. Hi yw awdur Annotating Modernism: Marginalia and Pedagogy from Virginia Woolf to the Confessional Poets (2020), cyd-olygydd The Bloomsbury Handbook to Sylvia Plath (2022) gydag Anita Helle a Maeve O’Brien, a golygydd This Business of Words: Reassessing Anne Sexton (2016). Roedd yn gyd-olygydd The Poems of Sylvia Plath, sef argraffiad newydd, ysgolheigaidd, gyda nodiadau o gasgliad cerddi Sylvia Plath, gyda Karen V. Kukil (Faber and Faber, Mai 2026).
Tocynnau:
- £5 pris llawn
- £3.50 consesiynau
Archebwch eich tocyn yma: https://www.ticketsource.com/dylanthomas

This post is also available in: English


