Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Date/Time
25/10/2025 - 02/11/2025
10:00 am - 4:00 pm


25 Hydref – 2 Tachwedd

Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl fis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ledled Cymru – gyda llawer ohonynt AM DDIM.

Rydym ni wedi ymuno â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru er mwyn rhannu torreth o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda chi. Bydd amgueddfeydd o bob math, ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru; dewch i’n gweld ac ymunwch yn y dathliadau.

Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i ddigwyddiad gwych mewn amgueddfa yn eich ardal chi: https://gwylamgueddfeyd.cymru

This post is also available in: English