Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Bydoedd Bach ‘Holiday Memory’.

Date/Time
08/08/2025
1:00 pm - 4:00 pm
Dydd Gwener 8 Awst, 1.00 – 4.00
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Bydoedd Bach ‘Holiday Memory’.
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.
Dewch i greu diorama codi gwych gan ddefnyddio collage a deunyddiau printio creadigol a lliwgar. Mae dioramâu’n fydoedd bach hudol; yn ein gweithdy, byddwn yn cynnwys ein hoff atgofion o’r haf wedi’u hysbrydoli gan y darllediad radio ‘Holiday Memory’ gan Dylan Thomas.
Bydd dewis amgen hefyd i greu llun gan ddefnyddio collage a phrint.
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.
Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Ystod oedran a awgrymir: 2 oed ac yn hŷn ar gyfer gweithgareddau collage a phrintio; 8 oed ac yn hŷn ar gyfer dioramâu.
Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.
Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.
Galw heibio, am ddim.
This post is also available in: English