Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Creu Dyddlyfr ‘Holiday Memory’

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Creu Dyddlyfr ‘Holiday Memory’

Date/Time
25/07/2025
10:00 am - 4:00 pm


Dydd Gwener 25 Gorffennaf, 10.00 – 12.00 

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Creu Dyddlyfr ‘Holiday Memory’

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Mae ein gweithdy creu dyddlyfr ‘Holiday Memory’ poblogaidd yn dychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas! Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddarllediad radio poblogaidd Dylan, ‘Holiday Memory’, byddwn yn creu dyddlyfrau gyda phocedi dirgel, tudalennau sy’n plygu allan ac amlenni cudd er mwyn casglu’ch hoff atgofion a straeon o’r haf. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

Am ddim.

Child's journal

This post is also available in: English