Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Mygydau 3D Anifeiliaid Dylan

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Mygydau 3D Anifeiliaid Dylan

Date/Time
20/02/2026
10:00 am - 12:00 pm


Dydd Gwener 20 Chwefror, 10am i 12pm

Mae’r gweithdy hwn wedi’i ddylunio ar gyfer teuluoedd y mae angen profiad gweithdy mwy tawel arnynt.

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creu mygydau anifeiliaid 3D difyr! Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu mygydau 3D cerfluniol ar thema anifeiliaid sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas, gan gynnwys cadnoid, tylluanod a theigrod. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/dylanthomas

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.

This post is also available in: English