{"id":6034,"date":"2020-09-16T21:40:30","date_gmt":"2020-09-16T20:40:30","guid":{"rendered":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?p=6034"},"modified":"2020-09-16T21:40:32","modified_gmt":"2020-09-16T20:40:32","slug":"teithiau-dylan-i-america-rhan-3","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/","title":{"rendered":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3"},"content":{"rendered":"\n<p>Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i&#8217;w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Hydref 1952, cyhoeddwyd mewn bwletin am y digwyddiadau oedd ar ddod i The Poetry Centre yn Efrog Newydd y byddai Dylan Thomas yn teithio o Gymru ar ei drydedd daith o America yn ystod y mis Mai dilynol ac y byddai darlleniad o&#8217;i ddrama i leisiau, &#8216;Under Milk Wood&#8217;. Felly, roedd Dylan yn barod am ei drydydd ymweliad ag America:<\/p>\n\n\n\n<p>Cyrhaeddodd Efrog Newydd ar 21 Ebrill 1953 ar y llong deithio newydd, yr SS United States. Dyma oedd llong orau, newydd cwmni United States Lines, ond nid oedd y dyluniad na&#8217;r peirianneg fodern yn gallu gwella taith stormus. Ysgrifennodd Dylan at Caitlin mewn ffordd hunandosturiol fod y m\u00f4r wedi bod yn greulon drwy gydol y daith; roedd am ddianc rhag y diwrnodau diddiwedd o gael ei daflu o gwmpas ar y llong ddiawledig honno, y disgrifiwyd ganddo fel &#8216;huge hot gadget-mad hotel&#8217;. Roedd yn dioddef o s\u00e2l m\u00f4r ac am fod gyda hi; &#8216;not on this endless cocktail-shaker&#8217;.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l trydedd daith lwyddiannus (chwe wythnos o hyd, felly&#8217;n fyrrach na&#8217;r ddwy daith arall), hedfanodd adref gan gyrraedd Llundain ar 4 Mehefin, i ddinas a oedd yn dal i ddathlu seremoni coroni Elizabeth II yn Abaty Westminster ddeuddydd yn gynharach. Er ei fod yn gobeithio cael taith haws yn \u00f4l, roedd yn anlwcus; hedfanodd yr awyren i ganol tywydd stormus. Ysgrifennodd Dylan at Oscar Williams gan ddisgrifio&#8217;r hediad: \u2018it was stormy and dangerous, and only my iron will kept the big bird up&#8217;, a chan ddisgrifio&#8217;r glaniad: &#8216;with only one spine-cracking jar&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gynnar ym mis Medi, daeth John Malcolm Brinnin, rheolwr ei daith yn yr UDA ynghyd \u00e2\u2019r ffotograffydd Rollie McKenna, i Dalacharn i greu proffil o Dylan a&#8217;i deulu ar gyfer cylchgrawn. Ychydig ddiwrnodau ar \u00f4l iddynt adael, ac er gwaethaf cyngor meddygol, cyhoeddodd Dylan ei fod ar gael i wneud ei bedwaredd daith ac ar 19 Hydref, hedfanodd Dylan ar ei ben ei hun i America, er y cynlluniwyd yn wreiddiol y byddai Caitlin yn mynd gydag ef. Disgwyliwyd iddo gyrraedd ar 14 Hydref ond cyrhaeddodd ei docyn hedfan gan gwmni Pan American yn Nhalacharn ar \u00f4l iddo adael i fynd i Lundain, ac roedd y dyddiad terfyn wedi mynd heibio erbyn iddo\u2019i dderbyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ysgrifennodd John yn ei gofiant &#8216;Dylan Thomas in America&#8217; fod y bardd wedi cwyno am y gwres wrth iddo gyrraedd, gan ei fod yn gwisgo sgarff blew camel a siwt drwchus, a gofynnodd am ddiod yn syth yn y maes awyr cyn iddo deithio i&#8217;r Chelsea Hotel. Ar 5 Tachwedd, llewygodd Dylan, ac mae amgylchiadau ei farwolaeth trychinebus o gynnar wedi\u2019u cofnodi a&#8217;u trafod yn fanwl, yn ogystal ag ymddygiad Caitlin pan gyrhaeddodd erchwyn gwely ei g\u0175r a oedd yn ddifrifol wael. Yn ei chofiant, &#8216;Caitlin: Life with Dylan Thomas&#8217;, mae&#8217;n cofio bod beic modur wedi tywys ei char o&#8217;r maes awyr i ysbyty St Vincent, a&#8217;r unig beth mae&#8217;n ei gofio o&#8217;r hediad i Efrog Newydd oedd yfed llawer o wisgi yn y bar ar y dec isaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l ei farwolaeth bedwar diwrnod yn ddiweddarach, mynnodd Caitlin yn chwyrn ei bod am fynd \u00e2 chorff Dylan yn \u00f4l i Dalacharn i&#8217;w gladdu, ac ar 17 Tachwedd hwyliodd ar long SS United States i Southampton gydag arch Dylan yn yr howld. Roedd yn addas ei fod yn dychwelyd drwy deithio ar y llong deithio orau a chyflymaf yr oedd gan America i\u2019w chynnig.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan nad oedd yn gallu dioddef rhannu caban \u00e2 menyw a ddisgrifiwyd ganddi fel \u2018sort of glamour queen\u2019, aeth ati i feddwi\u2019n gaib ac ymddwyn yn wyllt ac fe&#8217;i hanfonwyd i\u2019r howld i gysgu mewn gwely bync morwr ar bwys arch Dylan, lle mae Caitlin yn cofio meddwl i&#8217;w hun: \u2018My God, this is exactly where I wanted to be&#8230;\u2019. Roedd yn teimlo&#8217;n fwy cyfforddus yma, lle gallai fod yn agos at Dylan ar ei phen ei hun: \u2018alone with my grief\u2019. Defnyddiwyd yr arch gan gr\u0175p o forwyr fel bwrdd i chwarae cardiau a rhoi eu poteli o gwrw arno. Meddyliodd Caitlin: \u2018Dylan would have liked that\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd rhan olaf taith Dylan i&#8217;w gartref yng Nghymru\u2019n un gwmpasog. Daeth brodor o Dalacharn, Billy Williams, i gasglu Caitlin ac arch Dylan yn nociau Southampton. Cymerwyd y troad anghywir ar un pwynt a chawsant eu hunain yn ne-orllewin Lloegr. Dywedodd Caitlin eu bod wedi stopio i fynd i rai tafarndai ar y ffordd gan adael arch Dylan yn y car tu fas cyn cyrraedd y Pelican yn Nhalacharn, sef t\u0177 ei fam weddw.<\/p>\n\n\n\n<p>Teithiodd Dylan gyfanswm o oddeutu 30,000 o filltiroedd ar gyfer ei bedair taith yn America drwy groesi m\u00f4r Iwerydd ar long neu mewn awyren a chan gynnwys teithiau cysylltiol i feysydd awyr a dociau, ond nid yw hyn yn cynnwys y teithiau mewnol a wnaeth yno. Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys St Martin yn Nhalacharn, lle claddwyd Caitlin hefyd; ac os daw cynlluniau i\u2019w terfyn, efallai bydd yr SS United States a ddigomisiynwyd ym 1969 yn dod yn westy, yn ganolfan ddiwylliannol ac yn amgueddfa sy&#8217;n adrodd hanes y llong deithio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i&#8217;w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno. Ym mis Hydref 1952, cyhoeddwyd mewn bwletin am y digwyddiadau oedd ar ddod i &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Teithiau Dylan i America | Rhan 3<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6032,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"categories":[305],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i&#039;w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i&#039;w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-09-16T20:40:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-09-16T20:40:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/201114Dylan-Thomas-exhibition_149-1024x681.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"681\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Chris Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Chris Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\"},\"author\":{\"name\":\"Chris Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\"},\"headline\":\"Teithiau Dylan i America | Rhan 3\",\"datePublished\":\"2020-09-16T20:40:30+00:00\",\"dateModified\":\"2020-09-16T20:40:32+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\"},\"wordCount\":875,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\",\"name\":\"Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-09-16T20:40:30+00:00\",\"dateModified\":\"2020-09-16T20:40:32+00:00\",\"description\":\"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i'w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Teithiau Dylan i America | Rhan 3\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\",\"name\":\"Chris Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Chris Williams\"},\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com","description":"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i'w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com","og_description":"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i'w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.","og_url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_published_time":"2020-09-16T20:40:30+00:00","article_modified_time":"2020-09-16T20:40:32+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":681,"url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/201114Dylan-Thomas-exhibition_149-1024x681.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Chris Williams","twitter_misc":{"Written by":"Chris Williams","Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/"},"author":{"name":"Chris Williams","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6"},"headline":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3","datePublished":"2020-09-16T20:40:30+00:00","dateModified":"2020-09-16T20:40:32+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/"},"wordCount":875,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/","name":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3 - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website"},"datePublished":"2020-09-16T20:40:30+00:00","dateModified":"2020-09-16T20:40:32+00:00","description":"Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i'w deithiau yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019r cyfandir hwnnw\u2019r flwyddyn honno.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/teithiau-dylan-i-america-rhan-3\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Teithiau Dylan i America | Rhan 3"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6","name":"Chris Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","caption":"Chris Williams"},"url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6034\/"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=6034"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6034\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":6035,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6034\/revisions\/6035\/"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6032\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=6034"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories\/?post=6034"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags\/?post=6034"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}