Sgyrsiau a Theithiau
*Diweddariad i’n cwsmeriaid*
Yn unol â chyngor y llywodraeth, bydd Cyngor Abertawe’n atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol i helpu’r gymuned i ymladd yn erbyn coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys y lleoedd hynny lle mae’r cyhoedd yn dod at ei gilydd megis amgueddfeydd ac orielau. O ganlyniad, mae Arddangosfa Dylan Thomas ar gau dros dro.


Mae ein Swyddogion Llenyddiaeth, Dysgu ac Allgymorth yn rhoi sgyrsiau ar agweddau amrywiol ar waith, bywyd a chyd-destun diwylliannol Dylan. Rydym hefyd yn cynnig teithiau tywys o’n harddangosfa Dylan Thomas ‘Dwlu ar y Geiriau’.
Yn ddiweddar, gwnaethom siarad â Chymdeithas Hanesyddol Talacharn, rydym wedi croesawu Ysgol Gynradd Casllwchwr i fwynhau’r arddangosfa a sesiwn ysgrifennu creadigol ac wedi rhoi taith a chyflwyniad i griw o ganolfan newydd Seamus Heaney yn Wlster.

Rydym hefyd yn rhan o raglen 4-site y cyngor i hwyluso ymweliadau gan ysgolion Abertawe.
Rydym yn teilwra’n sgyrsiau a’n teithiau i ofynion pob grŵp, felly cysylltwch â ni drwy e-bostio dylanthomas.lit@swansea.gov.uk os hoffech wybod mwy, ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Ganolfan Dylan Thomas!

This post is also available in: English