Clawr Albwm Sgt Pepper y Beatles
Clawr albwm Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band y Beatles wedi’i lofnodi. Fe’i ryddhawyd ar 1 Mehefin 1967 a’i gynhyrchu gan Syr George Martin.
Dyluniwyd y clawr gan Peter Blake a’i roi i Jeff Towns, cyn iddo gael ei brynu gan Ganolfan Dylan Thomas. Mae’r llofnod arno’n dweud “For Jeff – Peter Blake – Nov 8th 1994”.
Dewis John Lennon oedd cynnwys llun o Dylan Thomas ar y clawr. Yn The Beatles Anthology, nododd Paul McCartney, “Rwy’n siŵr mai Dylan Thomas oedd y prif ddylanwad ar (Bob) Dylan a John (Lennon). Dyna pam nid yw Bob yn ei alw ei hun yn Bob Zimmerman – ei enw go iawn. Roedd pob un ohonom yn hoffi Dylan Thomas. Rwy’n darllen ei waith yn aml. Rwy’n meddwl y dechreuodd John ysgrifennu o’i herwydd ef.”
Aeth Syr George Martin ymlaen i gynhyrchu ei fersiwn ei hun o Under Milk Wood, ac mae Peter Blake yn creu cyfres o dorluniau pren sy’n seiliedig ar gymeriadau o Milk Wood.
This post is also available in: English