Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’

*Diweddariad i’n cwsmeriaid – Croeso nôl, rydym wedi gweld eich eisiau!*

Ein horiau agor dros dro yw 10am i 4pm ddydd Mercher i ddydd Sul. Does dim angen i chi gadw slot i ymweld, ond byddwn yn monitro niferoedd ar y safle i sicrhau bod digon o le i bobl cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Ffoniwch ni os ydych yn grŵp mawr a gallwn eich cynghori ymhellach.


Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

Agorodd ein harddangosfa Dylan Thomas barhaol, ‘Dwlu ar y Geiriau’, ar 100fed pen-blwydd Dylan, 27 Hydref 2015, o ganlyniad i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Abertawe.

Archwiliwch yr arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrandewch ar y recordiadau ac edrychwch ar y gwrthrychau gwahanol sy’n cael eu harddangos er mwyn dysgu am waith, bywyd, a chyd-destun diwylliannol un o awduron pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae’r arddangosfa hon yn addas i’r teulu ac am ddim, ac mae ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys y brif ystafell, ardal arddangos dros dro sy’n cynnwys arddangosfeydd sy’n newid, ac ardal ddysgu sydd ar agor i’r cyhoedd pan nad yw’n cael ei defnyddio ar gyfer gweithdai.

Summer Holiday activities - Dylan Thomas Centre - Swansea - UK - 10th August 2015

Mae llawer i archwilio ar y llinell amser ryngweithiol megis Llwybr y Plant sy’n cynnwys rhai o’r anifeiliaid sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan.

Gallwch ddilyn Llwybr y Bobl o gwmpas y llinell amser hefyd a darganfod rhai o’r bobl allweddol ym mywyd Dylan, a’r cyd-destun diwylliannol cyfoethog yr oedd yn byw ac yn gweithio ynddo.

Dylan Thomas exhibition - Swansea - 20th November 2014

Mae un rhan yng nghanol yr arddangosfa’n canolbwyntio ar Dylan yr awdur ac un arall ar Dylan y perfformiwr.

Ceir gweithgareddau rhyngweithiol, difyr ynghyd â sgriniau cyffwrdd sy’n adrodd stori nodiaduron Dylan, a gallwch archwilio’i gerdd enwog ‘Do not go gentle into that good night’ ac amgylchiadau ei farwolaeth. Gwrandewch ar Dylan ei hun, a’r bobl a oedd yn ei adnabod, trwy’r seinyddion yn y cadeiriau.

Galwch heibio’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’!

Dylan Thomas Centre Exhibition – Spherical Image – RICOH THETA

 

heritage lottery fund

This post is also available in: English