||
Ymweld ag Abertawe, man geni DylanY darparwr gwybodaeth swyddogol i dwristiaid ar gyfer Bae Abertawe (de-orllewin Cymru, y DU) Ganwyd Dylan Thomas yn Rhodfa Cwmdoncyn yn yr Uplands, Abertawe a dylan wadwyd ar ei waith gan sawl man ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gwyr ac o'u hamgylch. Mae Abertawe, dinas y glannau'n gartref i'r amgueddfeydd hynaf a diweddaraf yng Nghymru a'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, sy'n gwerthu danteithion megis cocos a bara lawr (gwymon!) a phice ar y maen wedi'u pobi'n ffres. Mae gan y ddinas gyfleuster syrffio dan do hefyd yn yr LC ac, wrth gwrs, Canolfan enwog Dylan Thomas, sy'n gartref i'r casgliad mwyaf yn y byd o femorabilia Dylan Thomas. Dilynwch bum milltir Bae Abertawe a byddwch yn cyrraedd y Mwmbwls, gyda'i gastell canoloesol, ei siopau crefft hynod, ei orielau celf a'i siopau dillad ffasiynol. A chofiwch am y dewis eang o gaffis a pharlyrau hufen-iâ (y mae un ohonynt yn ymfalchïo mewn rysáit gyfrinachol o 1922!).
Gadewch i ni eich helpu i gynllunio eich ymweliad Gallwn hefyd helpu gyda syniadau am leoedd i ymweld â hwy, gweithgareddau, lleoedd i fwyta, digwyddiadau lleol, llwybrau, mapiau, llawlyfrau, cofroddion lleol, anrhegion a mwy. Canolfan Croeso Abertawe ffôn: 01792 468321 Oriau agor: Cyrraedd Abertawe Mae'n daith 3½ awr yn y car o Lundain, a 2¾ awr o Birmingham, ac mae'n lleoliad perffaith i ddianc am wyliau byr i ymlacio, neu am wyliau hwy mewn amgylchedd tawel. Ceir gwybodaeth fanwl am deithio i Abertawe, beth i'w wneud a ble i aros yn dewchifaeabertawe.com |
|