{"id":6895,"date":"2021-03-30T14:39:17","date_gmt":"2021-03-30T13:39:17","guid":{"rendered":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?p=6895"},"modified":"2021-03-30T14:39:19","modified_gmt":"2021-03-30T13:39:19","slug":"mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/","title":{"rendered":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador"},"content":{"rendered":"\n<p>Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pob plentyn yn dechrau dysgu o&#8217;i enedigaeth, ond mae&#8217;r hyn rydym yn ei ystyried yn gyffredinol yn flynyddoedd ysgol gynradd yn nodi&#8217;n dechreuad ar hyd llwybr addysg ffurfiol tuag at oedolaeth. Ar gyfer Dylan Thomas, dechreuodd y &#8216;gromlin dysg&#8217; hon yn Mirador Crescent, enw priodol iawn, i lawr y rhiw ac ychydig strydoedd i ffwrdd o&#8217;i gartref yn Cwmdonkin Drive. (Mae&#8217;r gair Mirador yn tarddu o&#8217;r Sbaeneg, a gall olygu balconi neu ffenestr y ceir golygfa eang drwyddi &#8211; yr ail yn yr achos hwn.) Roedd e&#8217; eisoes yn saith oed pan gofrestrwyd e&#8217; gan ei rieni, DJ a Florence, yn Ysgol Un Athrawes Mrs Isabel Hole.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Ysgolion Un Athrawes wedi bod yn rhan o fywyd addysgol mewn gwledydd lle siaradwyd Saesneg mor bell yn \u00f4l \u00e2&#8217;r 17eg ganrif. Roeddent fel arfer yn sefydliadau preifat yr oedd yn rhaid talu ffioedd iddynt, a nhw oedd rhagflaenwyr ysgolion meithrin, babanod ac elfennol. Roedd llawer yn darparu ar gyfer merched, a oedd yn dysgu sut i wn\u00efo, brodio ac arlunio &#8211; gelwid y rhain &#8216;y grasusau&#8217;. Roeddent bron yn ddieithriad yn cael eu rhedeg gan fenywod (gwragedd gweddw oedrannus yn aml) o&#8217;u cartrefi eu hunain, a gallai safon yr addysg fod yn hynod amrywiol. Nid oedd rhai&#8217;n darparu llawer mwy na chyfleusterau gofal dydd, a byddai gan yr hen ferched yr enw o fod yn athrawon rywsut-rywsut a di-glem. Aeth yr enwogwr llenyddol o&#8217;r 19eg ganrif, Charles Dickens, i Ysgol Un Athrawes, ac yn ei nofel \u2018Great Expectations\u2019 mae&#8217;r Pip ifanc yn mynd i ysgol o&#8217;r math, lle mae&#8217;r hen ferch yn treulio mwy o amser yn cysgu na&#8217;n addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy lwc, roedd llawer o ysgolion Un Athrawes yn darparu sylfaen dda mewn sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, a rhoddwyd blaenoriaeth i les disgyblion. Ymddangosodd enghraifft ddiddorol yn The Cambrian, papur newydd wythnosol yng Nghymru, ar 4 Gorffennaf 1840: cafwyd hysbyseb ynddo am Ysgol Baratoi i Fechgyn (disgyblion dydd neu breswyl) pedwar i naw oed, a gynhaliwyd gan Mrs Le Courteur, yn 4 Nelson Place, Abertawe.&nbsp; Addawodd roi sylw i iechyd a chysur unrhyw fonheddwr ifanc a roddwyd yn ei gofal. Disgrifiwyd y lleoliad fel un &#8216;iach&#8217;, gyda&#8217;r hinsawdd yn &#8216;arbennig o fwyn&#8217; a &#8216;ger y m\u00f4r&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, roedd Dylan, yr oedd cartref ei blentyndod yn Uplands, o fewn cyrraedd hawdd i awelon iachusol Bae Abertawe, yn blentyn gwanllyd. Fe&#8217;i ganed ym 1941, roedd yn dioddef o asthma a broncitis, ac roedd ei fam yn gwneud iawn am hyn drwy fod yn rhiant cydwybodol o amddiffynnol. Pan fyddai&#8217;n s\u00e2l yn ei wely, byddai Florence yn darllen iddo. Dywedodd wrth fywgraffydd Dylan, Constantine Fitzgibbon, ei fod, mwy neu lai, wedi dysgu&#8217;i hunan i ddarllen.<\/p>\n\n\n\n<p>Fyddai &#8216;cythrwfl&#8217; yr ysgolion gwladol lleol ddim yn addas ar gyfer Dylan; Does dim dwywaith bod sefydliad preifat Mrs Hole (ar gyfer tua 24 o ddisgyblion mewn t\u0177 teras maestrefol) yn ymddangos i Florence fel cyflwyniad mwy tyner a charedig o ddysgu, lle gallai ei mab eiddil gymysgu gyda phlant dymunol fel yr oedd yn gweddu i fab Uwch-athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ddiddorol edrych ar y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd at sefydlu Ysgol Un Athrawes Mirador yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan Dylan fel ardal faestrefol hunanfoddhaus o Abertawe. Dengys cofnodion archif fod Isabel wedi priodi Herbert Augustus Hole (prif fragwr a mab i ficer) ym 1891 yn Bedford. Roedd y ddau&#8217;n enedigol o Loegr.&nbsp; Mae cyfrifiad y flwyddyn honno&#8217;n cofnodi ei galwedigaeth fel Athrawes Gerddoriaeth, Gwraig Radd yr Academi Gerdd Frenhinol (LRAM), diploma proffesiynol a oedd yn agored i ymgeiswyr allanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn i&#8217;w g\u0175r farw ym 1900, yn 40 oed, cafodd y cwpwl 3 phlentyn: Leonard yn gyntaf, yna Dorothy a Herbert (&#8216;Eric&#8217;), y ganed y tri ohonynt yn Swydd Nottingham.&nbsp; Ond dengys cofnodion profiant, dyddiedig Awst 1900, mai cyfeiriad Herbert oedd Singleton House, Singleton Street, Abertawe, yr oedd bracty&#8217;n sownd iddo (safle Bragdy Abertawe a sefydlwyd ym 1835). Roedd ei ystad o \u00a34,544 yn golygu bod gan Isabel ddigon wrth gefn ac yn gallu sefydlu ysgol gyda phwyslais cryf ar gerddoriaeth, fel yr oedd yn gweddu i&#8217;w chymhwyster proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn cyfrifiad 1901 roedd, Mrs Hole (gweddw, 38 oed) a&#8217;i theulu ifanc yn byw yn 22 Mirador Crescent, er ni nodwyd beth oedd ei swydd.?? Cyflogai Eliza Sadler, 23 oed, fel cynorthwywraig i fam\/morwyn a Mary Anderson fe morwyn cartref cyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn weld bod yr Ysgol Un Athrawes wedi&#8217;i hen sefydlu erbyn cyfrifiad 1911, gyda Mrs Hole yn cael ei disgrifio fel Pennaeth y cartref ac yn athrawes gerddoriaeth mewn ysgol ganol i ferched gyda phedwar disgybl preswyl benywaidd, y ganed dwy ohonynt yn India i ddeiliaid Prydeinig. Yr hyn sy&#8217;n ddiddorol yw bod Eliza Sadler wedi&#8217;i dyrchafu i r\u00f4l athrawes gartref, ac o&#8217;r holl aelwyd, dim ond un person (morwyn t\u0177) a aned yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Trefnodd Mrs Hole ei hysgol fel bod yr ystafelloedd addysgu cyffredinol ar y llawr gwaelod a&#8217;r ystafell gerdd lan lofft. Eisteddai ar ddesg uchel i hawlio sylw, yn enwedig gan y bechgyn, a eisteddai&#8217;r tu \u00f4l i&#8217;r merched. Gwyddwn o waith ysgrifennu Dylan fod ei harddull addysgu&#8217;n gadarn ond yn garedig. Roedd ei merch, Dorothy yn ei chynorthwyo, a oedd yn arbennig o ddefnyddiol pan oedd angen cysuro plentyn. Roedd Eliza yn rhoi gwersi piano.<\/p>\n\n\n\n<p>Aeth Dylan i&#8217;r ysgol (yr oedd weithiau&#8217;n ei chrybwyll fel &#8216;ysgol baratoi&#8217;) tan 1925, pan symudodd i Ysgol Ramadeg Abertawe, yn 11 oed. Yn y cyfamser, parhaodd yr Ysgol Un Athrawes i addysgu plant ifanc am flynyddoedd lawer; gwyddwn o Gofrestr 1939 fod Mrs Hole yn brifathrawes yno o hyd, ac Eliza ffyddlon oedd y wraig cadw t\u0177 a&#8217;r ysgolfeistres gynorthwyol. Ym 1923, priododd Dorothy frocer stoc, a chroesawyd y fatriarchaeth hon gan ei g\u0175r a aeth i fyw yng nghartref ei wraig.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu farw Isabel ym 1951, yn 83 oed, ac erbyn hynny, roedd ei disgybl ifanc wedi hen flodeuo&#8217;n fardd byd-enwog. Byddai&#8217;n ddiddorol gwybod a oedd hi&#8217;n darllen ei waith ac i ba raddau y teimlai fod ei addysg gynnar yn ei Hysgol Un Athrawes hi wedi dylanwadu ar ei ysgrifennu.&nbsp; Roedd profiadau Dylan yn bendant wedi gadael argraff arno, a dyma fydd testun y blog nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands. Mae pob plentyn yn dechrau dysgu o&#8217;i enedigaeth, ond mae&#8217;r hyn rydym yn ei ystyried yn gyffredinol yn flynyddoedd ysgol &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6893,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"categories":[305],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-30T13:39:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-03-30T13:39:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Mrs-Hole-Collage.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1016\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"731\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Chris Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Chris Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\"},\"author\":{\"name\":\"Chris Williams\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\"},\"headline\":\"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador\",\"datePublished\":\"2021-03-30T13:39:17+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-30T13:39:19+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\"},\"wordCount\":1040,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\",\"name\":\"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-03-30T13:39:17+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-30T13:39:19+00:00\",\"description\":\"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\",\"name\":\"Chris Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Chris Williams\"},\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com","description":"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com","og_description":"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.","og_url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_published_time":"2021-03-30T13:39:17+00:00","article_modified_time":"2021-03-30T13:39:19+00:00","og_image":[{"width":1016,"height":731,"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Mrs-Hole-Collage.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Chris Williams","twitter_misc":{"Written by":"Chris Williams","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#article","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/"},"author":{"name":"Chris Williams","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6"},"headline":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador","datePublished":"2021-03-30T13:39:17+00:00","dateModified":"2021-03-30T13:39:19+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/"},"wordCount":1040,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization"},"articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/","name":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#website"},"datePublished":"2021-03-30T13:39:17+00:00","dateModified":"2021-03-30T13:39:19+00:00","description":"Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/mrs-isabel-hole-ac-ysgol-un-athrawes-mirador\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6","name":"Chris Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","caption":"Chris Williams"},"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6895\/"}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=6895"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6895\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":6896,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6895\/revisions\/6896\/"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6893\/"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=6895"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories\/?post=6895"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags\/?post=6895"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}