{"id":6862,"date":"2021-03-19T16:32:32","date_gmt":"2021-03-19T16:32:32","guid":{"rendered":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?p=6862"},"modified":"2021-03-19T16:32:34","modified_gmt":"2021-03-19T16:32:34","slug":"elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/","title":{"rendered":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2"},"content":{"rendered":"\n<p>Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma&#8217;r hyn a ddigwyddodd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Llwyddodd Elaine, gydag ychydig bach o olau tortsh yn unig i&#8217;w chynorthwyo, i ymbalfalu i&#8217;w desg yn y llyfrgell fenthyca ar y llawr uchaf a gwagio&#8217;r arian parod i&#8217;w helmed i&#8217;w gadw&#8217;n ddiogel, cyn mynd i lawr y grisiau i&#8217;r llyfrgell ddarllen ar y llawr gwaelod isaf. Mae&#8217;n disgrifio ei phrofiad yn ei geiriau ei hun:<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Caniatawyd i fi ddefnyddio tortsh fach iawn yn unig a ddangosodd ffordd i mi gerdded, tua dwy droedfedd o&#8217;m blaen. Doedd gen i ddim hawl i fflachio&#8217;r tortsh o gwmpas, oherwydd y paneli gwydr yn nho&#8217;r llyfrgell waelod. Roedd bwrdd hir, llydan, enfawr ar hyd cyfan y llyfrgell waelod hon. Doedd dim gwydr ar y darn cul o lawr y gallwn ei weld wrth ochr fy nhraed, ond, wrth gerdded a baglu o gwmpas y bwrdd enfawr, a ddefnyddiwyd fel bwrdd darllen gan aelodau&#8217;r Sefydliad Brenhinol, es i [wedyn] yn gyflym o gwmpas gweddill yr amgueddfa, ar y llawr gwaelod&#8230;. \u2018<\/p>\n\n\n\n<p>Doedd dim difrod amlwg, ar wah\u00e2n i rywfaint bach o wydr. Ar \u00f4l sicrhau nad oedd unrhyw dresmaswyr yno, aeth ati i gloi\u2019r drysau ffrynt (gan ddiogelu Lizzie) ac aeth adref. Cafodd ei deffro gan s\u0175n curo ar y drws ffrynt. Daeth aelod o&#8217;r garfan difa bomiau i&#8217;w rhybuddio i gadw draw oddi wrth y gwaith, gan eu bod wedi dod o hyd i leoliad y chweched bom (nad oedd wedi ffrwydro): roedd wedi plymio trwy do gwydr y llyfrgell ddarllen ac roedd yn sownd yn y llawr tua throedfedd o&#8217;r bwrdd, gyda&#8217;i adenydd metel ar ei fyny yn yr awyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oedd y warden ifanc dewr wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol wrth lywio o gwmpas y bwrdd darllen enfawr, gan fod yr holl ddarnau o wydr wedi disgyn arno. Gan fyfyrio ar ei dihangfa lwcus (ynghyd \u00e2&#8217;r amgueddfa), cofiodd Elaine: &#8216;Roeddwn i wedi cerdded fodfeddi oddi wrtho ac oherwydd bod fy mhwysau ychydig dan saith st\u00f4n, wnes i ddim aflonyddu arno mewn unrhyw ffordd.&#8217; Cafodd y bom ei ddiffiwsio\u2019n ddiweddarach a&#8217;i gludo i&#8217;r ardd fach yng nghefn yr adeilad i&#8217;w ddinistrio.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y drydedd noson, a&#8217;r noson olaf o fomio dwys, yn &#8216;noson ofnadwy arall&#8217; pan ddinistriwyd siop adrannol flaenllaw Abertawe, Ben Evans, ac ymddangosai fod y dref gyfan ar d\u00e2n. Er iddi yfed te gwan mewn ymgais &#8216;i fwrw&#8217;i blinder&#8217; a oedd yn bygwth ei llethu, roedd hi a&#8217;r wardeiniaid eraill yn gwybod bod yn rhaid iddynt wneud eu &#8216;gorau glas gan fod cynifer o bobl yn dibynnu arnom ni&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Y noson honno, defnyddiodd Elaine, a oedd yn 17 oed, yr holl hyfforddiant a gafodd fel warden, ei dawn i berswadio a&#8217;i phenderfyniad pur i symud gr\u0175p o bobl oedrannus ofnus o gysgod cyrch awyr yn Wind Street a oedd mewn perygl o gael ei lyncu mewn storm o d\u00e2n a oedd yn datblygu, a achoswyd gan y cymysgedd o ffrwydradau a oedd yn arllwys i lawr. Arweiniodd hi nhw drwy olygfa llawn dryswch ac anhrefn, gan ddwyn persw\u00e2d arnynt a hyd yn oed eu gwthio dros bont afon Tawe i ddiogelwch yn St Thomas ar ochr ddwyreiniol y dref. &#8216;Gallwn weld ein bod i gyd yn mynd i farw yno pe na baen nhw\u2019n mynd dros y bont honno,&#8217; cofiodd Elaine.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth droi&#8217;n \u00f4l i edrych ar y dref a oedd bellach yn wenfflam, \u00e2\u2019r afon yn adlewyrchu&#8217;r fflamau enfawr, gwelodd d\u0175r tal Eglwys y Santes Fair (lle bedyddiwyd cenedlaethau o&#8217;i theulu), \u00e2 fflamau\u2019n saethu allan o&#8217;r pen. Ymysg blinder llethol a galar, clywodd Elaine y clychau&#8217;n canu wrth iddynt gwympo i lawr. Meddai, &#8216;Roeddwn i&#8217;n gwybod na fyddwn i byth, byth, yn anghofio&#8217;r olygfa cyhyd ag y byddwn i byw.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth iddi beryglu ei bywyd ar batrolau cyrchoedd awyr, roedd Dylan Thomas a&#8217;i wraig, Caitlin, yn aros gyda&#8217;i rieni yn eu byngalo cymedrol yn ardal wledig Llandeilo Ferwallt, ychydig filltiroedd ar gyrion Abertawe, yn dilyn ymddeoliad ei dad DJ o&#8217;r Ysgol Ramadeg oherwydd afiechyd ac ar \u00f4l iddynt symud o gartref maestrefol plentyndod Dylan yn Cwmdonkin Drive. Roedd hyn<\/p>\n\n\n\n<p>cyn i Dylan ddechrau o ddifri ar ei &#8216;waith rhyfel&#8217; ei hun, yn ysgrifennu rhaglenni dogfen i godi calonnau ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth, a&#8217;r dyletswyddau a ymgymerodd fel warden cyrch awyr yn Llundain. Er nad yw&#8217;r &#8216;Collected Letters of Dylan Thomas\u2019 yn s\u00f4n ar adeg honno am y ddrama a oedd yn datblygu yn y dref, mae drama radio Dylan, &#8216;Return Journey&#8217;, a ddarlledwyd ym mis Mehefin 1947, yn cofio&#8217;r amser ofnadwy hwnnw ac yn pwysleisio&#8217;r bylchau amlwg ac emosiynol a gr\u00ebwyd gan &#8216;blitzed flat graves&#8217; y &#8216;remembered invisible shops&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiddorol, gwelodd Dylan ac Elaine harddwch ymysg canlyniadau&#8217;r dyddiau tywyll hynny. Roedd eira wedi troi&#8217;r strydoedd llwyd brwnt yn &#8216;Lapdir bach&#8217; wrth i Dylan drafod y dref gan chwilio am fersiwn iau ohono ef ei hun, a lawr ar y blaendraeth rhewedig mae&#8217;n disgrifio&#8217;r m\u00f4r fel rhywbeth sydd wedi mabwysiadu ansawdd crisialog.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, mae Elaine yn rhoi enghreifftiau i ni o ddelweddau syfrdanol adeg y rhyfel: ar un achlysur roedd hi&#8217;n sefyll ar Wind Street pan oleuwyd un o awyrennau\u2019r gelyn gan y chwiloleuadau &#8216;ac roedd hi&#8217;n ymddangos i fi ei bod fel broets arian yn hongian yn yr awyr!&#8217;; ar ben hynny, &#8216;Pan ffrwydrodd mwyngloddiau tir ar barasiwtiau, chwalwyd bob darn o wydr hefyd. Roedd gwydr ym mhobman, ac roedd y palmentydd a&#8217;r ffyrdd yn disgleirio gyda&#8217;r holl adlewyrchiadau o gafwyd gan bob darn. Roedd yn edrych fel rhew ac roedd yn brydferth iawn.&#8217;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gan alarnadu colled ar \u00f4l adeiladau Fictoraidd a Edwardaidd cynnar cain y dref, &#8216;o swyn a harddwch&#8217;, ac mewn adlais deimladwy o ddisgrifiad Dylan o Abertawe fel &#8216;ugly, lovely town&#8217; yn &#8216;Reminiscences of Childhood&#8217;, credai Elaine ei bod yn eironig bod melin flawd Weavers (adeilad mawr, concrit, &#8216;a edrychai&#8217;n ofnadwy&#8217;, a oedd mewn lle blaenllaw ar Par\u00ead y Cei, a ddymchwelwyd ac a ddisodlwyd yn y pen draw gan archfarchnad Sainsbury&#8217;s), wedi goroesi. Fodd bynnag, roedd yn ddiolchgar bod dau adeilad trawiadol a chain, a oedd yn agos iawn at ei gilydd, wedi goroesi&#8217;r rhyfel yn ddiogel: yn gyntaf Y Sefydliad Brenhinol (ei &#8216;hamgueddfa annwyl&#8217;) ac yn ail, yr hen Neuadd y Dref (hyd at 1934) y tu \u00f4l i Par\u00ead y Cei ar Somerset Place, a ailenwyd yn Ganolfan Dylan Thomas yn y 1990au ac sydd bellach yn Ardal Forol y ddinas sydd wedi&#8217;i hadfywio.<\/p>\n\n\n\n<p>Canmolwyd person\u00e9l y Sefydliad Amddiffyn Sifil a phobl Abertawe am wrthsefyll y profiad caled o dair noson o ymosodiadau&#8217;r gelyn gyda dewrder a phenderfyniad diwyro. Arhosodd mor\u00e2l yn uchel, er gwaethaf y dioddefaint, y golled a&#8217;r amddifadrwydd dwys a brofwyd gan gynifer yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l ymchwilio i stori Elaine, mae&#8217;n gwneud i berson deimlo&#8217;n wylaidd wrth ddysgu am ddewrder anhunanol merch fywiog 17 oed a wasanaethodd ei chymuned ac a brofodd gymaint a hithau&#8217;n ferch ifanc. Gyda&#8217;i g\u0175r a&#8217;i merch h\u0177n yn wardeiniaid cyrchoedd awyr, mae&#8217;r effaith emosiynol ar fam Elaine yn glir: mewn llythyr at ei chwaer yn America mae&#8217;n cyfaddef: &#8216;Mae Ted ac Elaine ar ddyletswydd gyda&#8217;r Gwasanaeth Amddiffyn Sifil bob nos bellach, a does neb yn cael llawer o gwsg. Pan fydd y nosweithiau ar ben, dwi mor ddiolchgar ac yn teimlo rhyddhad pan welaf y ddau ohonynt yn ddiogel. Mae\u2019n ymddangos eu bod yn treulio&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r amser yn ystod y cyrchoedd awyr yn yr awyr agored, ac mae&#8217;n rhaid i fi eistedd yn y lloches cyrch awyr, yn gobeithio ac yn gwedd\u00efo y byddant yn ddiogel.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth Elaine yn berchennog balch ar ddwy wobr am ei chyfraniadau adeg y rhyfel, yn bennaf y Medal Amddiffyn a ddyfarnwyd am ei r\u00f4l fel warden cyrch awyr, a roddwyd i&#8217;r holl berson\u00e9l Amddiffyn Sifil. Derbyniodd hefyd fathodyn Byddin Dir y Merched a Chorfflu Coed y Merched yn 2009 am ei gwaith diweddarach gyda&#8217;r Fyddin Dir ar fferm yn Sir Benfro.<\/p>\n\n\n\n<p>Pwysleisiodd Elaine ddewrder a gwydnwch pobl wych Abertawe yn aml. Fe&#8217;i hadwaenwyd fel ysbryd y Blitz, ac fe&#8217;i gwelwyd ymhlith y werin bobl mewn trefi a dinasoedd eraill ym Mhrydain a ddioddefodd yr un ffawd. Yn anffodus, bu farw Elaine yn 2020, ond wrth i ni gofio&#8217;r Blitz Tair Noson, wyth deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae ethos Elaine, ynghyd \u00e2 phwysigrwydd cydgyfrifoldeb, mesurau diogelwch amddiffynnol, a gwydnwch mewn argyfwng yn arbennig o berthnasol yn ein sefyllfa ansicr bresennol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ffynonellau:<\/p>\n\n\n\n<ul><li>\u2018Among some Swansea schoolboys: Dynefor secondary grammar school for boys 1939 &#8211; 1945\u2019 gan Tudor Price<\/li><\/ul>\n\n\n<div class=\"wp-block-group\">\n<ul>\n<li class=\"wp-block-group__inner-container\">https:\/\/civildefenceassociation.uk\/history\/<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n<ul><li>Rebuilding Swansea 1941-1961 gan Dinah Evans, Cyhoeddiad Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg<\/li><li>Rhifyn Darluniadol &#8216;Swansea at War&#8217; yr <em>Evening Post<\/em><\/li><li>\u2018The Collected Letters of Dylan Thomas\u2019<\/li><li>&#8216;The Swansea Blitz&#8217; gan Elaine Kidwell (Griffiths gynt) Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe, 2001<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma&#8217;r hyn a ddigwyddodd nesaf. Llwyddodd Elaine, gydag ychydig bach o olau tortsh yn unig i&#8217;w chynorthwyo, i ymbalfalu i&#8217;w desg yn y llyfrgell fenthyca ar &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6863,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"categories":[305],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma&#039;r hyn a ddigwyddodd nesaf.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma&#039;r hyn a ddigwyddodd nesaf.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-19T16:32:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-03-19T16:32:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Elaine-Blog-2-Collage-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1223\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"499\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Chris Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Chris Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\"},\"author\":{\"name\":\"Chris Williams\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\"},\"headline\":\"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2\",\"datePublished\":\"2021-03-19T16:32:32+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-19T16:32:34+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\"},\"wordCount\":1487,\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\",\"name\":\"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-03-19T16:32:32+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-19T16:32:34+00:00\",\"description\":\"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma'r hyn a ddigwyddodd nesaf.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\",\"name\":\"Chris Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Chris Williams\"},\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com","description":"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma'r hyn a ddigwyddodd nesaf.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com","og_description":"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma'r hyn a ddigwyddodd nesaf.","og_url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_published_time":"2021-03-19T16:32:32+00:00","article_modified_time":"2021-03-19T16:32:34+00:00","og_image":[{"width":1223,"height":499,"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Elaine-Blog-2-Collage-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Chris Williams","twitter_misc":{"Written by":"Chris Williams","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#article","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/"},"author":{"name":"Chris Williams","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6"},"headline":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2","datePublished":"2021-03-19T16:32:32+00:00","dateModified":"2021-03-19T16:32:34+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/"},"wordCount":1487,"publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/","name":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd - Rhan 2 - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website"},"datePublished":"2021-03-19T16:32:32+00:00","dateModified":"2021-03-19T16:32:34+00:00","description":"Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma'r hyn a ddigwyddodd nesaf.","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/elaine-griffiths-warden-cyrch-awyr-ieuengaf-cymru-yn-yr-ail-ryfel-byd-rhan-2\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd &#8211; Rhan 2"}]},{"@type":"WebSite","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6","name":"Chris Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","caption":"Chris Williams"},"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6862\/"}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=6862"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6862\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":6865,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6862\/revisions\/6865\/"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6863\/"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=6862"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories\/?post=6862"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags\/?post=6862"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}