{"id":6747,"date":"2021-03-03T15:29:57","date_gmt":"2021-03-03T15:29:57","guid":{"rendered":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?p=6747"},"modified":"2021-03-03T15:32:08","modified_gmt":"2021-03-03T15:32:08","slug":"florence-thomas-rhan-dau","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/","title":{"rendered":"Florence Thomas: Rhan dau"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.<\/p>\n\n\n\n<p>I Florence, roedd iechyd a lles ei phlant yn flaenoriaeth. Roedd y ddarfodedigaeth yn bryder mawr. Bu farw tad Florence ym 1905 a byddai&#8217;n aml yn dweud wrth bobl mai&#8217;r achos oedd y ddarfodedigaeth neu dwbercwlosis (er mai niwmonia oedd ar ei dystysgrif marwolaeth). Yn ogystal \u00e2 cholli&#8217;i chyntaf anedig, yn <em>Dylan Remembered Volume One, <\/em>dogfennir bod gan Florence frawd a chwaer a fu farw yn ystod eu plentyndod, Sarah Jane a David George. Roedd tystysgrif marwolaeth David yn dweud mai achos y farwolaeth oedd \u2018phthisis\u2019 sef twbercwlosis ysgyfeiniol yn \u00f4l pob tebyg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod Dylan yn faban iach pan gafodd ei eni, dywedodd Addie Elliot, a fu&#8217;n cynorthwyo&#8217;r fydwraig, ei fod yn faban bach iawn ac nid oedd yn tyfu&#8217;n gyflym. Roedd e&#8217;n llefain cryn dipyn ac yn peri llawer o bryder oherwydd doedden nhw ddim yn gallu darganfod pam ei fod yn llefain. Roedd Florence a DJ yn mwynhau mynd i&#8217;r theatr leol ar nos Wener &#8211; roedden nhw&#8217;n hoffi&#8217;r &#8216;Empire variety show\u2019- a byddai Addie yn gwarchod. Mae hi&#8217;n cofio y byddai Dylan yn llefain o&#8217;r funud y bydden nhw&#8217;n gadael tan y funud y bydden nhw&#8217;n dychwelyd, ac o ganlyniad byddai hithau&#8217;n llefain hefyd!<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd teulu&#8217;n hynod bwysig i Florence, y teulu agos a&#8217;r teulu estynedig. Pan oedd Dylan yn fach, mae Andrew Lycett yn dogfennu y byddai Florence yn mynd ag e&#8217; i ymweld \u00e2&#8217;i chwaer Dosie ar y penwythnosau a byddai Dylan yn mynd i&#8217;r ysgol Sul a gynhaliwyd gan ei g\u0175r, y Parchedig David Rees. Cedwid yr ystafell fyw ar gyfer yr achlysuron &#8216;gorau&#8217;, ac yno y byddai&#8217;n croesawu&#8217;i hymwelwyr teuluol o Sir G\u00e2r. Byddai&#8217;n aml yn siarad Cymraeg gyda&#8217;i pherthnasau ac roedd DJ yn addysgu dosbarthiadau Cymraeg, ond fel roedd yn gyffredin ar y pryd, magwyd Dylan a Nancy i siarad Saesneg. Yn \u00f4l Mrs Dawkins, un o ffrindiau Florence, byddai DJ yn gwawdio Florence am ei &#8216;Chymraeg Abertawe&#8217;, felly anaml iawn y byddai&#8217;n ei siarad o&#8217;i flaen, er ymddengys ei bod yn derbyn ei gerydd gyda hiwmor da. Ysgrifennodd Paul Ferris fod Mrs Dawkins yn disgrifio Florence fel \u2018the hen-pecked wife of an intellectual\u2019.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Credir i Dylan ddangos symptomau o asthma pan oedd yn grwt ifanc, rhywbeth y mae&#8217;n rhaid ei fod wedi gwaethygu pryderon Florence am dwbercwlosis. Yn <em>Dylan Thomas: The Biography,<\/em> dyfynna Paul Ferris sgwrs y cafodd Florence ag Ethel Ross ym 1954: \u2018As a child he would collapse while he played with his toys\u2019. Pan oedd yn grwt ifanc yn Ysgol Un Athrawes Mrs Hole, roedd e&#8217;n tueddu i gario clecs i&#8217;w fam am y plant eraill a byddai Florence yn ymddangos yn yr ysgol i gwyno. Roedd Evelyn Jones, un o gyfoedion Dylan, yn cofio bod Florence yn addoli Dylan, ac roedd pob un ohonynt yn ei hofni&#8217;n fawr. Pan oedd Dylan yn dost yn y gwely, byddai ei fam yn darllen iddo, ond yn y blynyddoedd diweddarach byddai&#8217;n dweud ei fod wedi addysgu ei hun i ddarllen yn bennaf o gomics fel <em>Tiger Tim <\/em>a <em>Rainbow.<\/em> Yn <em>The Life of Dylan Thomas, mae <\/em>Constantine Fitzgibbon yn dogfennu y byddai DJ yn darllen Shakespeare i&#8217;r Dylan ifanc a byddai Florence yn ebychu: \u2018Oh, Daddy, don\u2019t read Shakespeare to a child only four years of age.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd gan ddau o blant Florence anhwylderau a fyddai&#8217;n eu cadw o&#8217;r ysgol am gyfnodau hir, ond mae&#8217;n ddadleuol p&#8217;un a oedd y cyfnodau hyn o wellhad yn angenrheidiol neu a oeddent yn rhannol oherwydd bod Florence fel i\u00e2r \u00e2 deugyw. Dywedir er enghraifft bod Nancy wedi colli dau dymor o ysgol rhwng 1922 a 1923 pan ddatblygodd anhwylder gwaed a olygai bod posibilrwydd y gallai unrhyw gwt fynd yn septig. Yn <em>Dylan Remembered Volume One <\/em>mae ffrind Nancy pan oedd yn blentyn, Eileen Llewellyn Jones, yn cofio: \u2018if they had a cold, either of them, or bronchitis, or something like that, they would perhaps miss a whole term\u2019s schooling\u2019.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Dylan hefyd yn dueddol i gael damweiniau; torrodd ei drwyn pan oedd yn ifanc iawn ar \u00f4l cwympo drwy&#8217;r ffyn canllaw mewn t\u0177 cymydog, a chwympodd oddi ar wal a tharo&#8217;i hun yn anymwybodol ar un achlysur. Yn fuan ar \u00f4l ennill y ras filltir yn ysgol Ramadeg Abertawe &#8211; gorchest gorfforol yr oedd yn hynod falch ohoni &#8211; gwrthdarodd \u00e2 fan pan oedd yn reidio&#8217;i feic a threuliodd dair wythnos yn yr ysbyty gyda thoriadau lluosog yn ei arddwrn a&#8217;i fraich. Ar \u00f4l hynny, yn \u00f4l Lycett, roedd gartref yn gwella. Aeth Florence i&#8217;r drafferth o osod bwrdd yn yr ardd iddo fel y gallai ymarfer ysgrifennu gyda&#8217;i law chwith.&nbsp; Fodd bynnag, pan edrychodd allan o&#8217;r ffenestr yr ystafell wely, gwelodd ei fod yn smygu ac nid yn ysgrifennu! Wnaeth hi ddim ei geryddu, ond dywedodd wrth DJ am y digwyddiad yn lle; mae&#8217;n ymddangos ei bod yn dibynnu ar DJ i fod yn ddisgyblwr. Mae Paul Ferris yn dogfennu, gyda holl ddamweiniau ac anhwylderau Dylan, iddi ddweud wrth ei chymdogion ei bod yn &#8216;ofni am ei fywyd&#8217;. Er na allai ei ddiogelu rhag damweiniau, roedd hi&#8217;n benderfynol o gadw salwch draw; mae pob bywgraffiad am Dylan yn adrodd amdani&#8217;n lapio dillad cynnes amdano drwy&#8217;r flwyddyn, yn ei gadw yn y gwely pan oedd yr awgrym lleiaf o annwyd arno ac yn ei fwydo \u00e2 bwydydd cysur fel bara a llaeth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Rhan Tri yn archwilio sut roedd Florrie yn ymdopi \u00e2&#8217;i mab pan oedd yn ei arddegau. Cadwch lygad amdano&#8217;n fuan!<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn. I Florence, roedd iechyd a lles ei phlant yn flaenoriaeth. Roedd y ddarfodedigaeth yn bryder mawr. Bu farw &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Florence Thomas: Rhan dau<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6745,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"categories":[305],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-03T15:29:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-03-03T15:32:08+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/201114Dylan-Thomas-exhibition_154-rt.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"798\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Chris Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Chris Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Chris Williams\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\"},\"headline\":\"Florence Thomas: Rhan dau\",\"datePublished\":\"2021-03-03T15:29:57+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-03T15:32:08+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\"},\"wordCount\":938,\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\",\"name\":\"Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-03-03T15:29:57+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-03T15:32:08+00:00\",\"description\":\"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Florence Thomas: Rhan dau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\",\"name\":\"Chris Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Chris Williams\"},\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com","description":"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com","og_description":"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.","og_url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_published_time":"2021-03-03T15:29:57+00:00","article_modified_time":"2021-03-03T15:32:08+00:00","og_image":[{"width":798,"height":1200,"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/201114Dylan-Thomas-exhibition_154-rt.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Chris Williams","twitter_misc":{"Written by":"Chris Williams","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#article","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/"},"author":{"name":"Chris Williams","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6"},"headline":"Florence Thomas: Rhan dau","datePublished":"2021-03-03T15:29:57+00:00","dateModified":"2021-03-03T15:32:08+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/"},"wordCount":938,"publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/","name":"Florence Thomas: Rhan dau - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website"},"datePublished":"2021-03-03T15:29:57+00:00","dateModified":"2021-03-03T15:32:08+00:00","description":"Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/florence-thomas-rhan-dau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Florence Thomas: Rhan dau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6","name":"Chris Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","caption":"Chris Williams"},"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6747\/"}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=6747"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6747\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":6748,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6747\/revisions\/6748\/"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6745\/"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=6747"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories\/?post=6747"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags\/?post=6747"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}