{"id":6384,"date":"2020-12-16T15:50:28","date_gmt":"2020-12-16T15:50:28","guid":{"rendered":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?p=6384"},"modified":"2020-12-16T15:50:30","modified_gmt":"2020-12-16T15:50:30","slug":"nancy-thomas-rhan-5","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/","title":{"rendered":"Nancy Thomas: Rhan 5"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie&#8217;n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.<\/p>\n\n\n\n<p>Er i \u0175r Nancy, Gordon Summersby, aros yn India ar \u00f4l y rhyfel i weithio i IBM yn y lle cyntaf, dychwelodd Nancy i Loegr. Mae&#8217;n anodd gwybod pryd yn union, ond des i ar draws rhestr o deithwyr ar long o&#8217;r enw &#8216;The Strathnaver&#8217; a deithiodd o Bombay i Southampton ar 6 Chwefror 1946. Roedd un Nancy Summersby, galwedigaeth F.A.N.Y (Iwmoniaeth Nyrsio Cymorth Cyntaf) ar y llong. Dydy dyddiad geni&#8217;r teithiwr ddim yn cyfateb, ond gallai hyn fod oherwydd bod Nancy&#8217;n osgoi ei hoedran? Mae cofnodion y cyfrifiad yn dangos bod Nancy M Summersby yn byw yn ardal Llundain ym 1947.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn <em>Dylan Remembered Volume 1, <\/em>adroddodd Doris Fulleylove hanes hyfryd am Nancy&#8217;n cofrestru ar gyrsiau coginio a threfnu blodau rywbryd ar \u00f4l iddi ddychwelyd i Loegr. Gan wneud defnydd da o&#8217;i chwrs coginio, aeth ymlaen i baratoi\u2019r brecwast priodas ar gyfer ei g\u0175r cyntaf, Haydn Taylor, a oedd yn priodi ei ysgrifenyddes.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y cyfamser, roedd y rhieni Thomas wedi symud o Landeilo Ferwallt i d\u0177 ar rent ym Mlaencwm, Sir Gaerfyrddin ym 1941. Roeddent wedi gwerthu eu t\u0177 yn Cwmdonkin Drive ym 1943. Yn ystod gaeaf 1947\/48, cwympodd Florence a thorri ei choes &#8211; bu&#8217;n rhaid iddi fynd i&#8217;r ysbyty yng Nghaerfyrddin. Roedd Nancy a Gordon yn byw yn Brixham, Dyfnaint, ar y pryd, lle\u2019r oedd Gordon yn rhedeg llong bysgota ac yn gwerthu bwyd y m\u00f4r i fwytai lleol. (Fel pwynt diddorol wrth fynd heibio, gwraig gyntaf Gordon Summersby oedd Kay Summersby &#8211; ar \u00f4l iddi ymuno \u00e2&#8217;r Gorfforaeth Trafnidiaeth Fecanyddol ar ddechrau&#8217;r rhyfel, aeth ymlaen i fod yn yrrwr ac yna&#8217;n ysgrifenyddes bersonol i&#8217;r Cadfridog Eisenhower.) Teithiodd Nancy i Flaencwm i ofalu am ei thad oherwydd yr oedd ei mam ar fin mynd i&#8217;r ysbyty am sawl mis.&nbsp; Ym mis Ionawr neu fis Chwefror, yn fuan ar \u00f4l ei damwain, aeth Dylan i ymweld \u00e2 hi, a disgrifiodd y sefyllfa i Caitlin mewn llythyr: \u2018Here it\u2019s snowbound, dead, dull, damned; there\u2019s hockey-voiced Nancy being jolly over pans and primuses in the kitchen&#8230;\u2019 Gan nad oedd Nancy&#8217;n gallu aros ym Mlaencwm, penderfynwyd y byddai D J yn mynd i fyw gyda hi a Gordon yn Brixham drwy gyfnod Florence yn yr ysbyty. Cynigiodd Dylan ofalu am eu ci, Mably, gan fod gan Nancy adargi Labrador yn barod, ac ni fyddai digon o le i&#8217;r ddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd disgwyl i Florence gael ei rhyddhau o&#8217;r ysbyty yn y mis Ebrill. Yn dilyn sgwrs ff\u00f4n gyda Nancy, teithiodd Dylan i Brixham o gwmpas 22 Ebrill i ymweld \u00e2 nhw. Penderfynodd &#8211; heb ofyn i Caitlin &#8211; y dylai ei rieni fyw gyda nhw yn South Leigh. Roedd t\u0177 Nancy&#8217;n rhy fach ar eu cyfer, ac roedd hithau a Gordon yn bwriadu symud yn \u00f4l i India yn fuan gan nad oedd ei fusnes mor llwyddiannus ag y gobeithiwyd.&nbsp; Er i Dylan a Caitlin gynorthwyo Florence a D J yn gorfforol wedi hynny, Nancy a Gordon oedd yn darparu\u2019r cymorth ariannol gyda&#8217;r biliau a&#8217;r rhent.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae&#8217;n ymddangos bod Nancy a Gordon wedi aros yn y DU am ychydig yn hirach gan mai eu menter nesaf oedd rhedeg y fferi rhwng tir mawr Lloegr ac Ynys Wair. Er bod y ffynonellau crai, neu ddiffyg ffynonellau, yn tueddu i awgrymu nad oedd Nancy a Dylan yn agos iawn yn ystod eu blynyddoedd h\u0177n, roedd Malcolm a Ruby&#8217;n cofio y byddai Dylan yn anfon, neu&#8217;n dweud wrth ei gyhoeddwyr i anfon llyfrau at Nancy pan roedd hi&#8217;n byw ar Ynys Wair. Dywedodd Ruby hefyd fod Dylan bob amser yn siarad yn annwyl amdani. Yn <em>Caitlin &#8211; Life with Dylan Thomas<\/em>, mae Caitlin yn s\u00f4n am weld ochr wahanol i Nancy pan roedd hi&#8217;n byw ar Ynys Wair: a more open-air, tomboyish side, but we never really got through to each other and never shared any confidences.\u2019&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw\u2019n glir pryd y symudodd Nancy a Gordon yn \u00f4l i India, ond digwyddodd hyn ym 1950 o bosib gan fod Dylan wedi awgrymu mewn llythyr at Helen a Bill McAlpine, dyddiedig 12eg Tachwedd 1949, y byddai Nancy a Gordon yn gallu gofalu am Aeronwy yn y T\u0177 Cychod pan oedd ef a Caitlin yn America, gan ddangos eu bod yn dal i fyw yn y DU ar yr adeg hynny. Dywedodd Paul Ferris yn <em>Dylan Thomas:<\/em> <em>The Biography, <\/em>fod Nancy wedi ymweld ag ef o India yn haf 1952. Roedd hi&#8217;n s\u00e2l, a chancr oedd y diagnosis. Cafodd lawdriniaeth yn Llundain a dychwelodd i India yn y mis Medi. Bu farw Nancy yn India ar 16 Ebrill 1953, pedwar mis ar \u00f4l ei thad a 7 mis cyn ei brawd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie&#8217;n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel. Er i \u0175r Nancy, Gordon Summersby, aros yn India ar \u00f4l y rhyfel i weithio i IBM yn y &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Nancy Thomas: Rhan 5<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6382,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"categories":[305],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie&#039;n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie&#039;n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-16T15:50:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-12-16T15:50:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Letter-ref-to-Nancyrt.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"530\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Chris Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Chris Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\"},\"author\":{\"name\":\"Chris Williams\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\"},\"headline\":\"Nancy Thomas: Rhan 5\",\"datePublished\":\"2020-12-16T15:50:28+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-16T15:50:30+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\"},\"wordCount\":799,\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Blog\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\",\"name\":\"Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-12-16T15:50:28+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-16T15:50:30+00:00\",\"description\":\"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie'n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Nancy Thomas: Rhan 5\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6\",\"name\":\"Chris Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Chris Williams\"},\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com","description":"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie'n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com","og_description":"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie'n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.","og_url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_published_time":"2020-12-16T15:50:28+00:00","article_modified_time":"2020-12-16T15:50:30+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":530,"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Letter-ref-to-Nancyrt.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Chris Williams","twitter_misc":{"Written by":"Chris Williams","Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#article","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/"},"author":{"name":"Chris Williams","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6"},"headline":"Nancy Thomas: Rhan 5","datePublished":"2020-12-16T15:50:28+00:00","dateModified":"2020-12-16T15:50:30+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/"},"wordCount":799,"publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"articleSection":["Blog"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/","name":"Nancy Thomas: Rhan 5 - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website"},"datePublished":"2020-12-16T15:50:28+00:00","dateModified":"2020-12-16T15:50:30+00:00","description":"Yn ei blog olaf (am nawr) am Nancy Thomas, mae Katie'n darganfod yr hyn a ddigwyddodd iddi ar \u00f4l y rhyfel.","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/blog-cy\/nancy-thomas-rhan-5\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Nancy Thomas: Rhan 5"}]},{"@type":"WebSite","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#website","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/13cb87b671b03046db227c60806906e6","name":"Chris Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/person\/image\/","url":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"http:\/\/0.gravatar.com\/avatar\/fe1ec4015106b6147be1be976d85cc46?s=96&d=mm&r=g","caption":"Chris Williams"},"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/author\/chris-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384\/"}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=6384"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":6385,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6384\/revisions\/6385\/"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6382\/"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=6384"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories\/?post=6384"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags\/?post=6384"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}