{"id":787,"date":"2013-12-03T16:16:53","date_gmt":"2013-12-03T16:16:53","guid":{"rendered":"http:\/\/176.32.230.19\/dylanthomas.com\/?page_id=787"},"modified":"2014-01-08T14:04:31","modified_gmt":"2014-01-08T14:04:31","slug":"milk-wood-cronoleg","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/","title":{"rendered":"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg"},"content":{"rendered":"<p><b><img loading=\"lazy\" class=\"alignright\" alt=\"under milk wood poster\" src=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2013\/10\/umw_poster_5_1.jpg\" width=\"338\" height=\"228\" \/><\/b><\/p>\n<p><b>Dilynwch esblygiad Under Milk Wood yn llawysgrifen Dylan ar hyd y blynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn unig.<\/b><br \/>\n\u201cTo begin at the beginning: It is spring, moonless night in the small town, starless and bible-black\u2026.\u201d<\/p>\n<p>Mae agoriad Under Milk Wood yn eich tynnu i stori Thomas am ddiwrnod ym mywyd trigolion pentref glan m\u00f4r bach Cymreig Llareggub (darllenwch e am yn \u00f4l).<\/p>\n<p>Mae ei &#8220;ddrama i leisiau&#8221; yn cynnwys rhai o gymeriadau mwyaf poblogaidd llenyddiaeth, o&#8217;r Capten Cat dall i Polly Garter, y Parchedig Eli Jenkins i No Good Boyo.<\/p>\n<p>Wedi&#8217;i hysgrifennu&#8217;n delynegol, mae&#8217;n hynod ddoniol a chynhyrfus, ac er eu bod wedi&#8217;u gwreiddio yn eu lle, mae cyffredinolrwydd y cymeriadau yn disgleirio drwyddi, sef pam nad yw erioed allan o brint, mae wedi&#8217;i chyfieithu i oddeutu 30 o ieithoedd gwahanol ac mae&#8217;n cael ei pherfformio&#8217;n rheolaidd ym mhedwar ban byd.<\/p>\n<p>Mae Richard Burton, Peter O\u2019Toole, Elizabeth Taylor, Syr Anthony Hopkins, Tom Jones, Philip Madoc a Matthew Rhys oll wedi ymddangos mewn addasiadau i&#8217;r radio, y llwyfan neu ffilm.<\/p>\n<p>Fel y dywedodd Dylan wrth ei gast yn Efrog Newydd cyn y cynhyrchiad llwyfan cyntaf erioed: \u201ccarwch y geiriau\u201d.<\/p>\n<div align=\"center\">\n<hr align=\"center\" size=\"2\" width=\"100%\" \/>\n<\/div>\n<p><b>1931<\/b><br \/>\nYchydig cyn gadael Ysgol Ramadeg Abertawe, ysgrifennodd Dylan, 17 oed, ddarn ar gyfer cylchgrawn yr ysgol sydd \u00e2 chyffelybiaethau o ran arddull i Under Milk Wood:<\/p>\n<p>MUSSOLINI<\/p>\n<p>Is nothing in this place ever right?<\/p>\n<p>WIFE (complacently)<\/p>\n<p>No dear. I hope you remembered to change your underclothing.<\/p>\n<p>MUSSOLINI<\/p>\n<p>I did. And to air my shirt. And do my teeth. And wash behind my ears.<\/p>\n<p>(Under Milk Wood, pxvi)<\/p>\n<p>Mae hyn yn debyg, wrth gwrs, i sgwrs rhwng Mrs Ogmore-Pritchard a&#8217;i dau \u0175r bwganllyd:<\/p>\n<p>MR OGMORE<\/p>\n<p>I must put my pyjamas in the drawer marked pyjamas<\/p>\n<p>MR PRITCHARD<\/p>\n<p>I must take my cold bath which is good for me<\/p>\n<p>MR OGMORE<\/p>\n<p>I must wear my flannel band to ward off sciatica<\/p>\n<p>MR PRITCHARD<\/p>\n<p>I must dress behind the curtain and put on my apron<\/p>\n<p>(Under Milk Wood, 11)<\/p>\n<p><b>1932<\/b><br \/>\nMae Dylan Thomas yn byw yn Abertawe. Mae&#8217;n trafod y syniad o ysgrifennu drama am bentref glan m\u00f4r bach Cymreig gyda&#8217;i ffrind, Bert Trick.<\/p>\n<p><b>1933<\/b><br \/>\nMae Thomas wedi ysgrifennu amlinelliad o Under Milk Wood, ac mae&#8217;n ei ddarllen i Bert a Nell Trick. Mewn cyfweliad \u00e2 Colin Edwards, cofia Bert Trick,<\/p>\n<p>\u201cDarllenodd y ddrama i Nell a mi yn ein byngalo yng Nghaswell o gwmpas yr hen ffwrn Dover, gyda&#8217;r lampau paraffin wedi&#8217;u cynnau yn y nos&#8230; enw&#8217;r stori bryd hynny oedd Llareggub, a oedd yn bentref glan m\u00f4r chwedlonol yn ne Cymru, pentref nodweddiadol, gyda thai teras ac un t\u0177 bach am bob pum bwthyn, a&#8217;r cymeriadau yn dod allan i wac\u00e1u&#8217;r trochion gan gyfarch ei gilydd ac ati; dyna oedd hedyn y syniad a&#8230; ddatblygodd i Under Milk Wood.\u201d<\/p>\n<p>(Dylan Remembered Volume 1, tudalen 165)<\/p>\n<p><b>c. 1934<\/b><br \/>\nDefnyddiwyd yr enw \u2018Llareggub\u2019 am y tro cyntaf yn y stor\u00efau cynnar \u2018The Orchards\u2019, \u2018The Holy Six\u2019 a \u2018The Burning Baby\u2019.<\/p>\n<p>Yn \u2018The Orchards\u2019 meddylia&#8217;r prif gymeriad, Marlais, &#8220;This was a story more terrible than the stories of the reverend madmen in the Black Book of Llareggub&#8221; (Collected Stories, 42). Yn y stori hon cysylltir crefydd \u00e2 Chymru chwedlonol Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y ffordd hon mae&#8217;n debyg i r\u00f4l Eli Jenkins wrth gofnodi&#8217;r gorffennol yn Llyfr Gwyn Llareggub. (Bellach y llyfrau hyn yw \u2018The Beige Book of Bollocks\u2019 mewn drama ddiweddar gan Phil Bowen, Parlez vous jig jig, a chaiff ei pherfformio yn y T\u0177 Cwch ar 31 Awst.)<\/p>\n<p>Yn \u2018The Holy Six&#8217;, cysylltir Llareggub \u00e2 chrefydd unwaith eto: \u201cAll through the afternoon they had talked of nothing but the disappearance of the rector of Llareggub\u201d (Collected Stories, 97)<\/p>\n<p>Yn \u2018The Burning Baby\u2019 mae mab Rhys Rhys, a ddisgrifir gan ei dad fel \u201cgreen stranger\u201d, yn edrych ar ei chwaer ac yn meddwl: \u201cShe was to him as ugly as the sowfaced woman of Llareggub who had taught him the terror of the flesh. He remembered the advances of that unlovely woman. She blew out his candle as he stepped towards her on the night the great hail had fallen and he had hidden in her rotting house from the cruelty of the weather\u201d. (Collected Stories, 39)<\/p>\n<p><b>1939<\/b><br \/>\nMeddai Thomas wrth yr awdur, Richard Hughes, \u201cYr hyn sydd ei angen ar Dalacharn yw drama am gymeriadau adnabyddus Talacharn \u2013 a chael pawb i chwarae rhan eu hunain.\u201d (Dylan Remembered Volume 2, 75)<\/p>\n<p><b>1943<\/b><br \/>\nAmlinella Thomas ei syniad am blot tref wallgof ymhellach i Richard Hughes and Constantine Fitzgibbon \u2013 mae&#8217;r teitl dros dro, &#8216;The Town That Was Mad&#8217;, yn para sawl blwyddyn.<\/p>\n<p><b>1944\/45<\/b><br \/>\nMae Thomas yn rhannu&#8217;i amser rhwng Llundain a&#8217;r Cei Newydd (yng ngorllewin Cymru). Mae&#8217;n ysgrifennu sgript radio, Quite Early One Morning, a welir fel rhagflaenydd i Under Milk Wood, am fod ei delynegiaeth yn debyg i&#8217;r Llais Cyntaf a&#8217;r Ail Lais yn Under Milk Wood. Mae&#8217;r tebygrwydd rhyngddynt yn amlwg yn y llinellau agoriadol:<\/p>\n<p>\u201cQuite early one morning in the winter in Wales, by the sea that was lying down still and green as grass after a night of tar-black howling and rolling, I went out of the house, where I had come to say for a cold unseasonable holiday, to see if it was raining still, if the outhouse had been blown away, potatoes, shears, rat-killer, shrimp-nets and tins of rusty nails aloft on the wind, and if all the cliffs were left.\u201d (Collected Stories, 299)<\/p>\n<p>Mae&#8217;r pennill ar y diwedd hefyd yn debyg i Under Milk Wood, fel y gwelir yn y dyfyniad canlynol:<\/p>\n<p>\u201cI am Captain Tiny Evans, my ship was the Kidwelly<\/p>\n<p>And Mrs Tiny Evans has been dead for many a year.<\/p>\n<p>\u2018Poor Captain Tiny all alone\u2019, the neighbours whisper,<\/p>\n<p>But I like it all alone, and I hated her.\u201d<\/p>\n<p>(Collected Stories, 302)<\/p>\n<p>Mae Quite Early One Morning hefyd yn cynnwys cymeriad o&#8217;r enw Mrs Ogmore-Pritchard, gyda&#8217;i llinell enwog, &#8220;And before you let the sun in, mind he wipes his shoes&#8221;.<\/p>\n<p>(Collected Stories, 302)<\/p>\n<p><b>1945<\/b><br \/>\nCyhoeddi Quite Early One Morning.<\/p>\n<p><b>1946<\/b><br \/>\nThomas yn darlledu &#8216;The Londoner&#8217;, stori am 24 awr ym mywyd teulu yn Llundain ar \u00f4l y rhyfel. Mae&#8217;r ddeialog a&#8217;r lleisiau&#8217;n cystadlu yn debyg i&#8217;r rhai yn Under Milk Wood, ac mae&#8217;r sgript yn cynnwys adroddwr hefyd. Mae Voice of an Expert yn chwarae r\u00f4l debyg i Voice of the Guide Book yn Under Milk Wood, ac mae&#8217;r ddeialog rhwng tri siopwr yn aros yn y ciw am ddognau yn debyg i gymdogion yn trafod Mr Waldo.<\/p>\n<p><b>1947<\/b><br \/>\nYsgrifennu \u2018Return Journey\u2019. Mae&#8217;r ddrama radio bwerus a chynhyrfus hon yn dilyn Thomas ar daith drwy Abertawe ar \u00f4l y blitz, ac mae&#8217;n enghraifft arall ohono&#8217;n hogi&#8217;i dechneg cyn cwblhau Under Milk Wood.<\/p>\n<p><b>1949<\/b><br \/>\nThomas yn darllen dyfyniadau o&#8217;r hyn a ddaeth i fod yn Under Milk Wood mewn parti ym Mhr\u00e2g.<\/p>\n<p><b>1950<\/b><br \/>\nAnfonwyd hanner cyntaf Under Milk Wood at y BBC dan y teitl The Town That Was Mad.<\/p>\n<p><b>Hydref 1951<\/b><br \/>\nMae Thomas yn ysgrifennu&#8217;n faith am Under Milk Wood mewn llythyr i Marguerite Caetani.<\/p>\n<p>\u201c\u2026 y syniad fy mod yn ysgrifennu darn, drama, argraff i leisiau, adloniant o&#8217;r dref rwy&#8217;n byw ynddi, ac i&#8217;w hysgrifennu&#8217;n syml ac yn gynnes ac yn ddigrif, gyda llawer o symud ac amrywiaeth o hwyliau, er mwyn, ar sawl lefel, drwy olwg a lleferydd, disgrifiad a deialog, atgof a pharodi, i chi ddod i adnabod y dref fel preswylydd ynddi.\u201d (Collected Letters, 904)<\/p>\n<p><b>Ebrill 1952<\/b><br \/>\nCyhoeddi hanner cyntaf Under Milk Wood yn Botteghe Oscure gan Marguerite Caetani.<\/p>\n<p><b>Mai 1952<\/b><br \/>\nThomas yn darllen rhan o&#8217;r ddrama yn Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain. Ni chafodd ei recordio.<\/p>\n<p><b>3 Mai 1953<\/b><br \/>\nThomas yn perfformio darlleniad unigol o Under Milk Wood yn Poets&#8217; Theatre, Cambridge, Massachusetts. Ni chafodd ei recordio.<\/p>\n<p><b>14 Mai 1953<\/b><br \/>\nPerfformiad llwyfan cyntaf Under Milk Wood, yn Poetry Center, Efrog Newydd. Cofia Liz Reitell,<\/p>\n<p>\u201cRoedd y llen i godi am 8.40. Wel, am 8.10 roedd Dylan wedi&#8217;i gloi yn yr ystafell gefn gyda mi. Ac nid oedd diwedd i Under Milk Wood. Roedd yn dweud o hyd, &#8220;Galla&#8217; i ddim, nid wyf yn gallu gwneud hyn.&#8221; Dywedais i, &#8220;Gelli, mae&#8217;r llen yn mynd i godi.&#8221; Yn ddigon rhyfedd, ysgrifennodd ddiwedd Under Milk Wood yn y fan a&#8217;r lle, a&#8217;r rhagarweiniad iddo. Byddai&#8217;n sgriblan y cyfan lawr, byddwn i&#8217;n ei gop\u00efo a&#8217;i argraffu er mwyn i&#8217;r ysgrifennydd allu&#8217;i ddarllen, ei roi i John Brinnin, yna&#8217;i roi i&#8217;r ysgrifennydd i wneud chwe chopi. Neidiodd pawb i&#8217;r tacsi o&#8217;r diwedd, a chyrhaeddom y theatr am hanner awr wedi wyth a rhoi chwe chopi i&#8217;r actorion&#8230;&#8221; (Dylan Remembered Volume 2, 305).<\/p>\n<p><b>28 Mai 1953<\/b><br \/>\nYr ail berfformiad llwyfan yn Awditoriwm Kaufmann, Efrog Newydd. Cyn hyn, cofia ffrind Dylan, yr awdur Ruthven Todd, sut y parhaodd Dylan i weithio ar y ddrama,<\/p>\n<p>\u201cGan wgu ar y byd yn gyffredinol, ac at ddigalondid fy seler, byddai&#8217;n cymryd dalennau gan Liz. Ar y rhain y nododd ei awgrymiadau petrus. Yn chwyrnllyd, byddai&#8217;n rhoi cynnig ar ei eiriau newydd a&#8217;r diwygiadau. Wrth wneud hyn byddai&#8217;n newid, yn ddigalon o hyd, o un llais i lais arall. Felly, yn \u00f4l cymeriad, gallai fod yn Captain Cat yn siarad ar un adeg, neu Rosie Probert, yna&#8217;n sydyn gallai fod yn Mrs Organ Morgan neu Mrs Ogmore-Pritchard, neu, yn drist, Polly Garter\u2026 cafodd pob diwygiad a wnaeth&#8230; ei ystyried a&#8217;i bwyso yn ei lais ef. Os nad oedd yn ymddangos yn gywir, byddai&#8217;n pwyso ymlaen, ei benelinoedd ar ei ben-gliniau, y sigar\u00e9t yn hongian yn llipa gyda&#8217;r lludw&#8217;n disgyn. Byddai&#8217;n sawru pob ymadrodd yn llawn, gan siarad yn araf ac ymddangos fel petai&#8217;n blasu&#8217;r geiriau. Yna byddai&#8217;n arbrofi \u00e2 chyfres o eiriau tan iddo ddarganfod yr un a oedd yn ei fodloni, am eiliad o leiaf&#8230; Petawn i&#8217;n dweud nad oedd rhywbeth yn glir neu ddim yn cael ei gyfleu&#8217;n gywir, nid oedd am i mi wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau. Byddai ef ei hun yn taflu geiriau ac ymadroddion gwahanol allan gan eu troi fan hyn a fan draw, tan iddo ddarganfod rhywbeth yr oedd ei eisiau.\u201d<\/p>\n<p>(Dylan Remembered Volume 2, 308)<\/p>\n<p><b>5 Hydref 1953<\/b><br \/>\nThomas yn rhoi perfformiad unigol o ddarn o Under Milk Wood yng Nghlwb Celfyddydau Dinbych-y-pysgod.<\/p>\n<p><b>15 Hydref 1953<\/b><br \/>\nDanfonwyd sgript derfynol Under Milk Wood at Douglas Cleverdon o&#8217;r BBC, a gwnaethpwyd cop\u00efau. Dychwelwyd y gwreiddiol at Thomas, a gollodd y copi dros y penwythnos, a chyn iddo adael am America, dywedodd wrth Cleverdon y c\u00e2i gadw&#8217;r gwreiddiol os deuai o hyd iddo. Ychydig ddiwrnodau&#8217;n ddiweddarach daeth Cleverdon o hyd iddo mewn tafarn yn Soho.<\/p>\n<p><b>24 a 25 Hydref 1953<\/b><br \/>\nPerfformiwyd Under Milk Wood yn Poetry Center, Efrog Newydd.<\/p>\n<p><b>9 Tachwedd<\/b><br \/>\nBu farw Dylan Thomas yn Ysbyty St Vincent, Efrog Newydd.<\/p>\n<p><b>Ar ddiwedd 1953<\/b><br \/>\nPerfformiad coffa o Under Milk Wood yn Efrog Newydd.<\/p>\n<p><b>24 Ionawr 1954<\/b><br \/>\nRichard Burton ac eraill yn perfformio dyfyniadau o Under Milk Wood mewn gala ar gyfer Cronfa Goffa Dylan Thomas yn Theatr y Gl\u00f4b, Llundain.<\/p>\n<p><b>25 Ionawr 1954<\/b><br \/>\nDarllediad radio cyntaf Under Milk Wood yn y DU. Burton yw First Voice.<\/p>\n<p><b>1954<\/b><br \/>\nCyhoeddi Under Milk Wood fel llyfr. Gwerthir 13,000 o gop\u00efau yn y mis cyntaf, 53,000 yn y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1956-57 roedd wedi creu incwm o \u00a316,043.<\/p>\n<p><b>1957<\/b><br \/>\nPerfformiad teledu&#8217;r BBC o Under Milk Wood.<\/p>\n<p><b>1961<\/b><br \/>\nDouglas Cleverdon yn gwerthu&#8217;i lawysgrif wreiddiol o Under Milk Wood i Times Book Company am \u00a32,000. Dywedir iddo werthu am bum gwaith cymaint yn ddiweddarach.<\/p>\n<p><b>Mawrth 1966<\/b><br \/>\nCaitlin Thomas yn erlyn ar gyfer dychwelyd llawysgrif wreiddiol Under Milk Wood, ac yn colli.<\/p>\n<p><b>1968<\/b><br \/>\nT. James Jones yn cyfieithu Under Milk Wood i&#8217;r Gymraeg &#8211; Dan y Wenallt.<\/p>\n<p><b>1971<\/b><br \/>\nCreu ffilm Andrew Sinclair o Under Milk Wood, gyda Richard Burton, Elizabeth Taylor a Peter O&#8217;Toole, wedi&#8217;i ffilmio yn Abergwaun.<\/p>\n<p><b>1988<\/b><br \/>\nSyr George Martin, cynhyrchydd y Beatles, yn recordio fersiwn gerddorol. Yn cynnwys Anthony Hopkins, Tom Jones ac eraill.<\/p>\n<p><b>1998<\/b><br \/>\nCynhelir g\u0175yl flynyddol Dylan Thomas am y tro cyntaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.<\/p>\n<p><b>2003<\/b><br \/>\nRecordiad newydd gan y BBC, yn cadw Burton fel First Voice ond gyda chast newydd.<\/p>\n<p><b>2003<\/b><br \/>\nCaiff cannoedd o fersiynau o Under Milk Wood eu perfformio ym mhedwar ban byd i gofio hanner canmlwyddiant marwolaeth Dylan.<\/p>\n<p><b>2004<\/b><br \/>\nHanner canmlwyddiant cyhoeddiad Under Milk Wood, sydd erioed wedi bod allan o brint.<\/p>\n<p><b>2006<\/b><br \/>\nAmcangyfrifir bod Under Milk Wood wedi&#8217;i chyfieithu i o leiaf 30 o ieithoedd hyd yn hyn.<\/p>\n<p><b>2008<\/b><br \/>\nAilgyhoeddi fersiwn animeiddiedig Under Milk Wood.<\/p>\n<p><b>2012<\/b><br \/>\nDiwrnod Dan y Wenallt cyntaf Abertawe.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div align=\"center\">\n<hr align=\"center\" size=\"2\" width=\"100%\" \/>\n<\/div>\n<p><b>Cyfeiriadau:<\/b><\/p>\n<p>Dylan Thomas \u2013 the Collected Letters, golygwyd gan Paul Ferris (Llundain: Dent, 2000 (cyhoeddiad newydd))<\/p>\n<p>Dylan Thomas \u2013 Collected Stories (Llundain: Phoenix, 2000)<\/p>\n<p>Dylan Thomas \u2013 Under Milk Wood (Llundain: Penguin Classics, 2000)<\/p>\n<p>Dylan Remembered Volume 1 \u2013 the Colin Edwards Tapes, golygwyd gan David N. Thomas (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2003)<\/p>\n<p>Dylan Remembered Volume 2 \u2013 the Colin Edwards Tapes, golygwyd gan David N. Thomas (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2004)<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dilynwch esblygiad Under Milk Wood yn llawysgrifen Dylan ar hyd y blynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn unig. \u201cTo begin at the beginning: It is spring, moonless night in the small town, starless and bible-black\u2026.\u201d Mae agoriad &hellip;<\/p>\n<p class=\"read-more\"> <a class=\"more-link\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\"> <span class=\"screen-reader-text\">Under Milk Wood \u2013 Cronoleg<\/span> Darllen mwy &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":622,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0},"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.11 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dilynwch esblygiad Under Milk Wood yn llawysgrifen Dylan ar hyd y blynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn unig. \u201cTo begin at the beginning: It is spring, moonless night in the small town, starless and bible-black\u2026.\u201d Mae agoriad &hellip; Under Milk Wood \u2013 Cronoleg Darllen mwy &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"DylanThomas.com\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2014-01-08T14:04:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2013\/10\/umw_poster_5_1.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\",\"name\":\"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\"},\"datePublished\":\"2013-12-03T16:16:53+00:00\",\"dateModified\":\"2014-01-08T14:04:31+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Am Dylan\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwaith Dylan\",\"item\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"description\":\"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization\",\"name\":\"DylanThomas.com\",\"url\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png\",\"width\":300,\"height\":100,\"caption\":\"DylanThomas.com\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com","og_description":"Dilynwch esblygiad Under Milk Wood yn llawysgrifen Dylan ar hyd y blynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn unig. \u201cTo begin at the beginning: It is spring, moonless night in the small town, starless and bible-black\u2026.\u201d Mae agoriad &hellip; Under Milk Wood \u2013 Cronoleg Darllen mwy &raquo;","og_url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/","og_site_name":"DylanThomas.com","article_modified_time":"2014-01-08T14:04:31+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2013\/10\/umw_poster_5_1.jpg"}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/","name":"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg - DylanThomas.com","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website"},"datePublished":"2013-12-03T16:16:53+00:00","dateModified":"2014-01-08T14:04:31+00:00","breadcrumb":{"@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/milk-wood-cronoleg\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Am Dylan","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwaith Dylan","item":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/dylan\/gwaith-dylan\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Under Milk Wood \u2013 Cronoleg"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#website","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/","name":"DylanThomas.com","description":"The poet and author Dylan Thomas is Swansea&#039;s most famous son","publisher":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#organization","name":"DylanThomas.com","url":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","contentUrl":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DTC-logo.png","width":300,"height":100,"caption":"DylanThomas.com"},"image":{"@id":"https:\/\/www.dylanthomas.com\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/787\/"}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page\/"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6\/"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments\/?post=787"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/787\/revisions\/"}],"predecessor-version":[{"id":837,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/787\/revisions\/837\/"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/622\/"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.dylanthomas.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/?parent=787"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}