Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Cydnabyddir y Nadolig gan lawer fel tymor ewyllys da, ac wythnos nesaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, byddwn yn dangos ein diolchgarwch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ei chefnogaeth wrth sefydlu ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.

O ddydd Llun 11 i ddydd Gwener 15 Rhagfyr, byddwn yn dangos ein diolchgarwch i bawb sy’n cefnogi Cronfa Dreftadaeth y Loteri drwy brynu tocynnau loteri a chardiau crafu.

Bydd y 15 ymwelydd cyntaf â’n harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ bob dydd sy’n meddu ar docyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol yn derbyn bag rhoddion Dylan Thomas am ddim. Yn ogystal rydym wedi ymuno â Chaffi 1825, a reolir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i estyn ein cynigion i gynnwys diod boeth maint cyffredin a mins-pei am ddim.

Bydd yr wythnos hon o ewyllys da i’r rheiny sy’n ein cefnogi yn dod i ben ddydd Gwener 15 Rhagfyr gyda Chwmni Theatr Fluellen yn dychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas gyda’i addasiad hyfryd o glasur y Nadolig – A Child’s Christmas in Wales. Yn ymuno â’r actorion fydd y delynores Geltaidd glodwiw, Delyth Jenkins, sydd wedi teithio i bedwar ban byd yn y gorffennol, gan gynnwys Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Gyda pherfformiadau am 1pm a 7pm, a thocynnau am £4 yn unig yn y prynhawn, dyma’r ffordd berffaith i godi hwyl yr ŵyl. Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau ar gael i’w prynu ar-lein yma am y perfformiad 30 munud neu yma am y perfformiad awr. Fel arall, gallwch eu casglu’n bersonol yng Nghanolfan Dylan Thomas, Somerset Place SA1 1RR.

Am fwy o wybodaeth am yr Wythnos Diolch, neu unrhyw un o’n digwyddiadau Nadoligaidd sydd ar ddod, ffoniwch ni ar 01792 463980.

 

This post is also available in: English