Cerdd y Mis: ‘A Dream of Winter’

‘Very often on winter nights the halfshaped moonlight sees
Men through a window of leaves and lashes marking gliding
Into the grave an owl-tongued childhood of birds and cold trees,’

A Dream of Winter’, o Dylan Thomas: Collected Poems (2014)

Gyda’r tywydd oer yma, roeddem yn meddwl y byddem yn darllen un o gerddi gaeaf Dylan. Wedi’r cyfan, y ffordd orau i brofi’r tywydd oer yw swatio yn y cynhesrwydd gyda llyfr a darllen amdano!

Cyhoeddwyd ‘A Dream of Winter’ yn gyntaf ym 1942 yng nghylchgrawn Lilliput. Roedd yn cyd-fynd â chyfres o 8 llun a oedd yn dangos golygfeydd gaeafol, pob pennill tair llinell ynghlwm wrth wahanol lun. Roedd y ffotograffwyr a dewiswyd ar gyfer y darn yn cynnwys rhai blaenllaw megis Bill Brandt a Brassai.

Gan ddefnyddio strwythur tripled gaeedig (odli’r llinell gyntaf a’r olaf), mae Dylan wedi creu portread taclus ar gyfer pob golygfa. Er eu bod yn gweithio ar eu pennau eu hunain, ar y cyd maent yn creu breuddwydlun sy’n llawn delweddau o natur a’r gaeaf, er enghraifft: ‘leaves and lashes’, ‘winter eyes’ a ‘frozen, birdless wood’. Mae llinell ganol pob tripled yn odli â’r un nesaf, gan greu llif ar draws y penillion, sy’n adlewyrchu llif naratif y breuddwyd. Mae ailadrodd ‘s’ ac ‘l’ yn creu llonyddwch esmwyth a thawel ar draws y darn.

Mae pob breuddwyd yn dod i ben yn y pen draw, ac nid oes eithriad yma. Mae’r pennill olaf yn dod â’r cysgwr yn ol i realiti unigedd a ‘London Wheels’ mewn cyferbyniad â ‘birds, trees, fish and bears’ ei freuddwydion.

Rydym yn ddigon ffodus i gael copi o gylchgrawn Lilliput yn ein Casgliad Dylan Thomas. Os ydych am weld testun llawn y gwaith gaeafol hwn, gellir dod o hyd i ‘A Dream of Winter’ yn argraffiad clawr papur diweddaraf The Collected Poems.

Katie Bowman & Hilary Mullan

This post is also available in: English